Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

HSC(4)-08-12 paper 9

Cyfarwyddeb yr UE ar Hawliau Cleifion i ofal iechyd trawsffiniol

Yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 25 Ionawr gofynnodd Mick Antoniw AC am ragor o wybodaeth am Gyfarwyddeb yr UE ar ddefnyddio hawliau cleifion i ofal iechyd trawsffiniol, a fabwysiadwyd ym mis Ebrill 2011.

Fel y nodwyd yn y papur cefndir ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 8 Rhagfyr cynhaliodd Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol y Trydydd Cynulliad ymchwiliad ar ddechrau 2009, a chlywodd dystiolaeth gan randdeiliaid o Gymru. Nid oes gwaith dilynol wedi’i wneud ar y cynigion hyn gan unrhyw un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Papur briffio Swyddfa Ewropeaidd y GIG

Paratôdd Swyddfa Ewropeaidd y GIG, sy’n rhan o Gydffederasiwn y GIG, bapur manwl ar y Gyfarwyddeb newydd ym mis Mai 2011[1], gan nodi’r prif bwyntiau perthnasol i’r GIG yn Lloegr (yn benodol). Rhoddwyd copi o’r papur gwybodaeth hwn i’r Aelodau a chyfeirir hwy ato i gael trosolwg manwl o’r gyfarwyddeb a’r goblygiadau posibl i’r GIG.

Mae gweddill y nodyn hwn yn rhoi trosolwg byr o rai o brif elfennau’r Gyfarwyddeb newydd.

Y cefndir

Sefydlwyd hawl cleifion i ofal iechyd mewn Aelod-wladwriaethau eraill o fewn yr Undeb Ewropeaidd, ac i gael ad-daliad gan eu system gofal iechyd eu hunain, drwy nifer o benderfyniadau Llys Cyfiawnder Ewrop.

Bwriad y Gyfarwyddeb newydd yw egluro sut y caiff yr hawl hwn ei weithredu’n ymarferol. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn gymwys i rai sy’n dewis cael triniaeth dramor; bydd y cynllun Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) yn parhau’n berthnasol i bobl sydd angen triniaeth frys pan fyddant yn ymweld â gwlad arall yn yr UE.

Prif elfennau

O dan y Gyfarwyddeb:

¡  mae’r gofal iechyd y gall cleifion ei gael dramor yn cyfateb i’r un gofal ag y byddai ganddynt hawl iddo gan y GIG yng Nghymru;

¡  caiff cleifion ad-daliad am gost y gofal iechyd hwn hyd at y swm y byddai eu triniaeth wedi ei gostio i’w ddarparu gan y GIG. Nid yw’n ofynnol i’r GIG dalu costau teithio na llety;

¡  bydd gan y GIG yr opsiwn o gyflwyno system awdurdodi ymlaen llaw ar gyfer cleifion sy’n awyddus i gael triniaeth a gynlluniwyd, dramor, ond dim ond mewn cyfres o amgylchiadau cyfyngedig y caiff wrthod rhoi’r awdurdod.

O ran awdurdodi ymlaen llaw, mae Swyddfa Ewropeaidd Cydffederasiwn y GIG wedi tynnu sylw at y wybodaeth a ganlyn:

….It is important to emphasise that authorisation cannot be refused where a patient is experiencing ‘undue delay’ in receiving treatment under the NHS. While there is no formal definition of ‘undue delay’, the European Court has stressed that judgments must be based on a clinical assessment of what is a medically acceptable period for the individual clinical circumstances of the patient, and that this assessment needs to be kept under review while the patient is waiting for treatment. Significantly, the European Court has said that offering treatment within a national waiting time target does not necessarily avoid ‘undue delay’.

Trosi

Rhaid rhoi’r Gyfarwyddeb ar waith yn y DU erbyn mis Hydref 2013. Nes y caiff y Gyfarwyddeb ei rhoi ar waith, bydd y rheolau presennol ar ofal iechyd trawsffiniol yn parhau mewn grym:

… The National Health Service (Reimbursement of the Cost of EEA Treatment) (Wales) Directions 2010[2] provides for a legal framework relating to prior authorisation for, and reimbursement of, costs of a patient’s healthcare in a Member State of the European Economic Area (EEA) other than the United Kingdom. These regulations, which apply in England and Wales, follow on from guidance[3] issued by the Welsh Government to the NHS in Wales in 2007 (in tandem with Department of Health guidance to the NHS in England) to assist NHS bodies in handling requests for patient mobility.

Camau yng Nghymru

Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw ddatganiadau ar y Gyfarwyddeb newydd na sut y caiff ei throsi yng Nghymru.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 



[1] Cydffederasiwn y GIG (Swyddfa Ewropeaidd), Patient choice beyond borders - Implications of the EU Directive on cross-border healthcare for NHS commissioners and providers, [fel ar 13 Chwefror 2012]

[2] National Health Service (Reimbursement of the Cost of EEA Treatment) (Wales) Directions 2010, 2010/915 [fel ar 13 Chwefror 2012]

[3] Cylchlythyr Iechyd Cymru, WHC (2007) 044, Advice to Local Healthcare Commissioners on Handling Requests for Hospital Care in other European Countries following the ECJ’s Judgment in the Watts case, 24 Mai 2007 [fel ar 13 Chwefror 2012]